Skip to content

Choose country and language preference

Byddwch yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i’ch cyngor. Penderfynir ceisiadau cynllunio yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod yna resymau da iawn dros beidio â gwneud hynny. Ymhlith y pwyntiau y rhoddir sylw iddynt mae:

  • nifer, maint, cynllun, safle a golwg allanol adeiladau;
  • y mynediad arfaethedig, y tirlunio a’r effaith ar y gymdogaeth;
  • yr isadeiledd sydd ar gael, megis ffyrdd a chyflenwad dðr; a
  • defnydd arfaethedig y datblygiad.

Nid oes rhaid gwneud cais eich hun. Os dymunwch, gallwch benodi asiant (er enghraifft, pensaer, cyfreithiwr, neu adeiladwr) i’w wneud ar eich rhan.

Gall unrhyw un wneud cais, ni wnaeth pwy biau’r tir neu’r adeiladau o dan sylw. Ond os nad chi yw’r perchennog, neu os mai perchen rhan yn unig ydych chi, rhaid i chi roi gwybod i’r perchennog neu’r rhai sy’n rhannu’r berchnogaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw lesddeiliad sydd â phrydles â saith blynedd neu ragor i redeg, ac unrhyw denant amaethyddol.

 

Dysgwch sut i wneud cais