Choose country and language preference
Mae'r canlynol yn enghreifftiau cyffredin o'r sefyllfaoedd pan fydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio:
Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch bob amser. Nid oes rhaid ei gael ar gyfer newidiadau i’r tu mewn i adeiladau, neu fel arfer ar gyfer addasiadau bach i’r tu allan megis gosod cysylltiadau ffôn a blychau larwm. Mae gan newidiadau bach eraill, er enghraifft, codi waliau a ffensys o dan uchder arbennig, ganiatâd cynllunio cyffredinol nad oes angen gwneud cais penodol ar ei gyfer. Efallai y bydd angen caniatâd ar gyfer pethau eraill os yw’r adeilad yn un rhestredig.
Mae gweddill y bennod hon yn rhoi cyngor pellach ar yr achlysuron pan fydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio. Os nad yw'r llyfryn hwn yn trafod yr hyn yr ydych yn dymuno'i wneud, dylech drafod eich cynigion gydag adran gynllunio'ch cyngor.
|
Os bwriwch chi ymlaen gyda’r datblygiad heb y caniatâd angenrheidiol, gall y awdurdod lleol dros eich ardal ofyn i chi wneud cais cynllunio adolygol.
Os bydd yn penderfynu na ddylid rhoi caniatâd efallai y bydd yn mynnu eich bod yn adfer pethau i’r hyn oeddent yn flaenorol. Gallwch apelio ond os bydd y dyfarniad yn eich erbyn a chithau’n dal i wrthod cydymffurfio mae’n bosibl y cewch eich erlyn.
© Crown Copyright 2008