Choose country and language preference
Mae’r adran hon o’r Porth yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am sut y gallwch ymwneud â cheisiadau ac apeliadau cynllunio a sut i gyflwyno cwyn os yw’n ymddangos nad yw’r materion wedi cael eu trafod yn gywir.
Mae’r llywodraeth yn awyddus iawn bod dinasyddion yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac ar eu cymunedau. Mae ymwneud yn bersonol mewn cynllunio yn gofyn am fynediad at wybodaeth a pharodrwydd i gyfrannu barn, naill ai fel unigolyn neu mewn grwp.
Mae ceisiadau ac apeliadau cynllunio yn dilyn amserlenni, felly mae’n bwysig rhoi eich barn (a elwir weithiau’n ’gynrychioliadau’) mewn da bryd. Hefyd mae’n ddefnyddiol gwybod sut i gael cymorth arbenigol i gynrychioli safbwynt personol yn effeithiol.
© Crown Copyright 2008