Skip to content

Choose country and language preference

Am wybodaeth am gynlluniau datblygu

Y system cynllunio gwlad a thref yw'r prif fframwaith o ddefnydd tir ym Mhrydain. Ei nod yw sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o dir er budd y cyhoedd.

Awdurdodau lleol sydd fel arfer yn penderfynu p'un a ddylid caniatáu cynigion i adeiladu ar dir neu ganiatáu i'w ddefnydd newid. Mae cynlluniau datblygu yn nodi polisïau’r awdurdod a chynigion ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn ei ardal. Mae'r cynllun datblygu yn arwain ac yn llywio penderfyniadau o ddydd i ddydd ynglŷn â ph'un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio, o dan system a elwir yn rheoli datblygiadau. Er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau hynny yn rhesymegol ac yn gyson, rhaid iddynt gael eu gwneud yn unol â'r cynllun datblygu a fabwysiadwyd gan yr awdurdod. Rhaid ymgynghori â'r cyhoedd a rhoi sylw priodol i faterion perthnasol eraill (a elwir yn 'faterion perthnasol' weithiau).

Mae'r gyfraith (Adran 54A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniadau gael eu gwneud yn unol â'r cynllun datblygu oni noda ystyriaethau perthnasol fel arall. Er nad oes rhaid dilyn cynlluniau yn fanwl gywir, maent yn sylfaen gref dros benderfyniadau cynllunio rhesymegol a chyson. Maent yn rhoi peth sicrwydd i bawb sy'n ymwneud â datblygiad mewn ardal ynglŷn â'r mathau o ddatblygiad a ganiateir ac nas caniateir yn ystod oes y cynllun.

Nid un cynllun yw'r cynllun datblygu bob amser:

  • Mae siroedd a'r rhan fwyaf o ddosbarthau unedol anfetropolitanaidd wedi'u cwmpasu gan gynlluniau fframwaith (lle mae'r awdurdod sirol, yr awdurdod parc cenedlaethol neu'r awdurdod lleol holl bwrpasol (a elwir weithiau'n 'awdurdodau unedol')) yn nodi polisïau strategol allweddol fel fframwaith ar gyfer cynllunio lleol a chynlluniau lleol (sef cynlluniau lle mae awdurdodau dosbarth ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn nodi polisïau manylach i lywio datblygiadau yn eu hardaloedd, gan gynnwys cynigion ar gyfer safleoedd penodol). Efallai y caiff cynlluniau fframwaith mewn rhai achosion eu paratoi ar y cyd rhwng dau neu fwy o awdurdodau (e.e. Sir ac awdurdod unedol neu barc cenedlaethol).
  • Mae awdurdodau sirol, awdurdodau parciau cenedlaethol a rhai awdurdodau unedol hefyd yn paratoi Cynlluniau Mwynau a Gwastraff Lleol. Mae cynlluniau lleol a CDUau yn nodi ardaloedd penodol fel rhai addas ar gyfer tai, cyflogaeth, manwerthu neu ddefnyddiau eraill, ac yn nodi'r polisïau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymhwyso wrth benderfynu p'un a ganiateir datblygiad ai peidio. Mae'r broses o baratoi cynlluniau datblygu yn rhoi cyfle i'r gymuned ddylanwadu ar bolisïau a chynigion ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn eu hardaloedd yn y dyfodol. Am mai'r cynllun datblygu yw'r sail statudol dros benderfyniadau cynllunio, mae'n bwysig bod pobl leol yn rhan o'r broses o'u paratoi. Mae sawl cyfle i bobl fynegi barn yn ystod y broses baratoi.
Local planning information - Learn about development plans