Choose country and language preference
Addasiadau - rhannu eiddo preswyl yn ystafelloedd byw a chysgu, fflatiau hunan - gynhaliol neu fflatiau deulawr.
Adeilad Rhestredig – adeilad neu strwythur arall o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig a gynhwysir ar restr statudol ac a ddyfernir â gradd (l, ll* neu ll).
Adfywiad Trefol – ailddefnydd neu ailddatblygu rhannau dirywiedig a di-raen o ardaloedd trefol hwn i ddod â bywyd newydd iddynt a hyfywedd economaidd.
Ailgylchu – adennill deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio o wastraff
Amlen bentref – ffiniau a ddiffinnir ar fap y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn cynnig na ddylid caniatáu i bentref ymestyn heibio iddynt.
Amodau – amodau a atodir i ganiatâd cynllunio i gyfyngu neu gyfarwyddo’r modd y bydd datblygiad yn cael ei wneud
Amwynder - Agweddau pleserus neu foddhaol, lleoliad fel arfer sy’n cyfrannu at ei gymeriad cyffredinol a mwynhad trigolion neu ymwelwyr.
Annedd Amaethyddol – annedd sy’n ddarostyngedig i amod neu gytundeb cyfreithiol y bydd yn gartref yn unig i rywun sydd yn cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi ddiwethaf yn unig neu yn bennaf mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu gyflogaeth wledig briodol arall.
Apêl – y broses o herio gan y ceisydd benderfyniad i wrthod cais a hynny trwy gynrychioliadau ysgrifenedig; gwrandawiad anffurfiol neu weithrediadau ymchwiliad ffurfiol. Gellir gwneud apeliadau hefyd yn erbyn methiant yr awdurdod Cynllunio i gyhoeddi penderfyniad, yn erbyn amodau a atodir wrth ganiatâd ac yn erbyn cyhoeddi rhybudd gorfodi.
Ar gyrion y canol – ar gyfer siopa, lleoliad y gellir cerdded yno’n rhwydd o’r brif ardal siopa, yn aml yn meddu ar gyfleuster parcio a phrif archfarchnad; ar gyfer swyddfeydd neu ddibenion hamdden, gall y term fod yn cyfeirio at rywbeth mwy helaeth ryw ychydig ymhelach ond o hyd o fewn cyrraedd ar droed i fan lle y ceir trafnidiaeth gyhoeddus.
Arallgyfeirio Gwledig – gweithgareddau yr ymgymerir â hwy ar dir sy’n weddill i gynnal incwm ffermydd, yn cynnwys, er enghraifft coedwigaeth, hamdden a thwristiaeth.
Archwiliad Cyhoeddus (EIP) – ystyriaeth o farn y cyhoedd ar gynllun fframwaith drafft neu newidiadau arfaethedig iddo a gynhelir gerbron arolygydd annibynnol.
Ardal Ddatblygu – ardal o flaenoriaeth ar gyfer adfywiad amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd neu gyfuniad o’r rhain.
Ardal Ddatblygu Wledig – ardal flaenoriaeth ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol.
Ardal Gadwraeth – ardal a gaiff ei amddiffyn yn statudol o dan y Deddfau Cynllunio, er mwyn cadw a gwella ei chymeriad a’i threflun.
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – ardal a ddynodwyd gan yr Asiantaeth Cefn Gwlad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru lle y prif bwrpas yw cadwraeth a gwella harddwch naturiol yn cynnwys blodau, planhigion, daeareg a thirwedd.
Ardal Rheolaeth Arbennig ar Hysbysebion – ardal a ddynodwyd yn benodol gan yr awdurdod cynllunio lleol oherwydd ei fod yn tybio fod ei nodweddion o ran harddwch, hanes, pensaernïaeth neu ddiwylliant mor arwyddocaol fel bod cyfiawnhad dros reolaeth hysbysebu llymach er mwyn cadw amwynder gweledol o fewn yr ardal honno. Dim ond drwy gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol y gall ardaloedd o’r fath gael eu dynodi.
Ardal Teithio i’r Gwaith (TTWA) – ardal gweithlu lled hunan-gynhaliol fel arfer wedi ei chanolbwyntio ar ganolfan gwaith drefol.
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) - o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 1988 (Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol), mae’n ofynnol i gynigwyr rhai datblygiadau a restrir gyflwyno cais cynllunio gyda datganiad amgylcheddol wedi ei atodi, yn gwerthuso effeithiau amgylcheddol tebygol y datblygiad ynghyd ag asesiad o sut y gellid lleddfu ar ddifrifoldeb yr effeithiau.
Awdurdod Cynllunio Lleol – yr awdurdod lleol neu’r cyngor a awdurdodir o dan y gyfraith i ymarfer swyddogaethau cynllunio. Fel arfer y fwrdeistref leol neu’r cyngor dosbarth ydyw, ond yn y Parciau Cenedlaethol a rhai ardaloedd eraill ceir trefniant gwahanol.
Bio-amrywiaeth – cyfrif o’r nifer a’r amrediad o rywogaethau a’u hamlder cymharol mewn cymuned.
Brîff Datblygu – dogfen yn rhoi gwybodaeth fanwl yn arweiniad i ddatblygwyr ar y math o gyfyngiadau datblygiad cynllun, dylunwaith a gofynion eraill ar gyfer safle arbennig sydd fel rheol o faint sylweddol.
Cadw – asiantaeth y Llywodraeth yn cefnogi gwarchodaeth, cadwraeth, gwella, dehongli a gwerthfawrogiad adeiladau hanesyddol a henebion yng Nghymru.
Cadwraeth Natur – cadwraeth, rheolaeth a gwella cymunedau naturiol planhigion ac anifeiliaid ac weithiau llystdyfiant a addaswyd, fel samplau cynrychioliadol o’u bath.
Cais a Alwyd i Mewn – cais cynllunio a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol neu at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w benderfynu ganddo trwy bwerau a gynhwysir yn adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Cais Amlinellol – cais cyffredinol am ganiatâd cynllunio i sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor, yn amodol ar gymeradwyaeth ar ôl hynny ar gyfer materion manwl.
Caniatâd Adeilad Rhestredig – caniatâd sy’n ofynnol ar gyfer newid neu ddymchwel adeilad rhestredig.
Caniatâd Ardal Gadwraeth – y caniatâd sy’n ofynnol gan awdurdod cynllunio lleol cyn dymchwel adeilad heb ei restru mewn ardal gadwraeth.
Caniatâd Diamwys – mae angen hwn i arddangos hysbyseb nad yw’n manteisio ar ganiatâd tybiedig o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheolaeth Hysbysebion).
Caniatâd Tybiedig – mae’n caniatáu hyn arddangos rhai “dosbarthiadau penodedig” o hysbysebu heb yn gyntaf orfod gwneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol. O dan y Rheoliadau Rheoli Hysbysebion mae 14 o ddosbarthiadau, a phob un ohonynt yn ddarostyngedig i amodau a chyfyngiadau llym.
Canllawiau Cynllunio Atodol – cyngor ychwanegol a roddir gan awdurdod cynllunio lleol yn manylu ar ei bolisïau statudol.
Canol Tref – disgrifia ganol dinas, tref a maestref draddodiadol sy’n darparu ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau ac sydd yn cyflawni swyddogaeth fel canolbwynt i gymuned ac ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.
Canolfan Siopa Ranbarthol – casgliad o siopau ar gyrion y dref, sydd fel arfer yn cynnwys ardal fanwerthu dros 50,000 o fedrau sgwâr crynswth, yn nodweddiadol yn cynnig ystod helaeth o nwyddau i’w cymharu.
Coridor Bywyd Gwyllt – ardal barhaus yn hwyluso mudo bywyd gwyllt drwy amgylchedd gwledig neu drefol.
Countryside Agency – corff sy’n gyfrifol am gynghori’r llywodraeth a gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cefn gwlad Lloegr.
Cyfarwyddyd Erthygl 14 - cyhoeddir gan Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfyngu ar roi caniatâd cynllunio gan awdurdod cynllunio lleol, naill ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol, yn arferol er mwyn rhoi amser i’r Adran benderfynu a wnaiff alw’r cais i mewn.
Cyfarwyddyd Erthygl 4 - gorchymyn a wneir gan Ysgrifennydd Gwladol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’r awdurdod cynllunio lleol sy’n mynnu y gwneir cais cynllunio lle y byddai hawliau datblygu yn gweithredu fel arfer.
Cyfarwyddyd Rheoliad 7 – Cyfarwyddyd a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddwyn mantais caniatâd tybiedig oddi ar safle arbennig neu ardal ddiffinedig a roddir yn arferol gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion).
Cylchlythyr – arweiniad, yn cynnwys polisi a gyhoeddir gan adran y llywodraeth sy’n arferol, ond ddim bob tro, yn cefnogi deddfwriaeth.
Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) – asiantaeth y llywodraeth yn hyrwyddo diddordeb a lles cefn gwlad Cymru.
Cynllun Datblygu – dogfen (cynllun fframwaith neu leol) sy’n gosod yn ysgrifenedig ac/ neu mewn mapiau a deiagramau bolisïau a chynigion awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygiad a defnydd tir ac adeiladau yn ardal yr awdurdod.
Cynllun Datblygu Unedol – cynllun lleol a gynhyrchir gan rai awdurdodau dosbarth unedol a bwrdeistrefi Llundain sydd â chyfrifoldeb am ystod lawn o wasanaethau awdurdod lleol.
Cynllun Fframwaith – cynllun statudol yn nodi polisïau strategol allweddol sy’n rhoi fframwaith ar gyfer polisïau manylach mewn cynlluniau lleol.
Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth — y modd y mae ymrwymiad llywodraeth y DG i Gonfensiwn Amrywiaeth Biolegol Rio De Janeiro (1992) i gael ei wireddu.
Cynllun Lleol – cynllun datblygu statudol gan awdurdod cynllunio lleol yn rhestru polisïau manwl ar gyfer gwarchod yr amgylchedd a datblygiad.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Corff llywodraeth yng Nghymru sy’n trafod ac yn cymeradwyo deddfwriaeth ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn atebol.
Cyrion y Dref – tir agored gan fwyaf ar ymylon ardal drefol sy’n bod eisoes.
Cytundeb Adran 106 (gweler Mantais Cynllunio) – cytundeb yn ymrwymo rhwng Cyngor a Datblygwr yn gysylltiedig â chaniatâd cynllunio ac ynglyn â materion cysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig sy’n eu hymrwymo.
dwr ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ecolegol gwlyptiroedd yn gyffredinol.
Datblygiad – cynnal gwaith adeiladau, peirianyddol, cloddio neu weithgareddau eraill yn, ar, dros, neu o dan dir, neu o dan y tir, neud newid mawr yn y defnydd a wneir o unrhyw adeiladau neu dir.
Datblygiad hirgul – band hirgul o ddatblygiad yn ymestyn ar hyd un neu ddwy ochr y ffordd.
Datblygu Cynaliadwy – datblygu amgylcheddol gyfrifol, a ddiffinnir yn gyffredin fel “datblygiad sy’n cwrdd ag anghenion y genhedlaeth bresennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion hwythau eu hunain”.
Datganiad Ysgrifenedig – datganiad dogfennol polisi, yn ffurfio rhan o gynllun datblygu a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol ac y mae’n rhaid cael cymeradwyaeth ffurfiol iddo.
Defnydd Anghydffurfiol – defnydd nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau cyffredinol y cynllun datblygu ar gyfer yr ardal y mae ynddo.
Defnydd Atodol – defnydd atodol cysylltiedig i brif ddefnydd adeilad neu ddarn o dir.
Defnydd sefydledig – defnydd nad yw’n cydymffurfio i gynllun ond na ellir dwyn achos gorfodi yn ei erbyn, yn aml oherwydd hyd yr amser y bu’r defnydd yn weithredol.
Dwyster - yn achos datblygu preswyl, mesur o naill ai nifer yr ystafelloedd cyfannedd fesul hectar neu nifer yr anheddau fesul hectar.
Dyletswyddau a Chytundebau Cynllunio – cytundebau cyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio a datblygwr, neu a gaiff eu cynnig gan ddatblygwr yn annibynnol, yn sicrhau bod gwaith ychwanegol arbennig cysylltiedig â datblygiad yn cael ei wneud, fel arfer o dan Adran 106 o Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990.
© Crown Copyright 2008