Choose country and language preference
English Heritage (Historic Buildings and Monuments Commission for England) – corff cenedlaethol a ariennir gan y llywodraeth i hyrwyddo materion cadwraeth adeiladau a rhoi cyngor arnynt.
English Nature – corff cenedlaethol a ariennir gan y llywodraeth i hyrwyddo cadwraeth bywyd gwyllt a nodweddion naturiol Lloegr a rhoi cyngor arnynt.
Fferm Wynt – safle agored fawr lle y mae cyflymdra’r gwynt yn gyson uchel a lle y bydd nifer o dwrbinau gwynt yn cynhyrchu trydan ar gyfer defnydd preifat neu fasnachol.
Golygwedd Datblygu Gofodol Ewropeaidd (ESDP) – Cynllun fframwaith rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd nad yw’n rhwymo.
Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) – rhybudd a gyhoeddir gan lywodraeth neu lywodraeth leol i gaffael tir neu adeiladau at ddibenion buddiant cyhoeddus.
Gorchymyn Cadw Coed (TPO) – cyfarwyddyd a wneir gan awdurdod cynllunio lleol a’i gwna yn drosedd i dorri, topio, tocio, diwreiddio neu niweidio yn faleisus neu ddinistrio coeden heb ganiatâd yr awdurdod hwnnw.
Gorchymyn Cadwraeth Adeilad – hysbysiad o dan Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i warchod adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig rhag cael eu dymchwel neu newidiadau fyddai’n effeithio ar eu diddordeb.
Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir (GPDO) – Mae’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a ganiateir) 1995 yn rhoi hawliau (a adwaenir yn hawliau datblygu a ganiateir) i wneud rhai ffurfiau cyfyngedig o ddatblygiad heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd – Mae’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 yn rhoi defnydd tir ac adeiladau mewn amrywiol gategorïau, ac nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer newidiadau mewn defnydd oddi mewn i’r un dosbarth defnydd. Yn ymarferol mae newid rhwng dosbarthiadau defnydd yn debygol o fod ag angen caniatâd cynllunio.
Gorfodi – gweithdrefnau gan awdurdod cynllunio lleol i sicrhau bod telerau ac amodau penderfyniad cynllunio yn cael eu gweithredu, neu fod datblygiad sy’n digwydd heb ganiatâd cynllunio yn cael ei ddwyn o dan reolaeth.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol – ardal a ddynodir gan English Nature i warchod a chadw ardaloedd cynefin bywyd gwyllt a ffurfiau daearegol o bwys cenedlaethol ac i hyrwyddo ymchwil wyddonol; yng Nghymru mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) y mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) wedi ei ddynodi i fod o bwys cenedlaethol neu ryngwladol ar gyfer cadwraeth natur. (Nodyn: ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru sylwais eu bod yn cyfeirio hefyd at Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, yn ogystal ag SSSIau)
Gwarchodfa Natur Leol (LNR) – ardal a ddynodir o dan Ddeddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn ardal o bwysigrwydd neilltuol ar gyfer cadwraeth natur a lle y mae dealltwriaeth y cyhoedd o faterion cadwraeth natur yn cael ei annog.
Gwelliant – y cynnydd yng ngwerth tir yn sgîl datblygiad neu drwy roi caniatâd cynllunio neu oherwydd datblygiad tir cyfagos.
Gwerthusiad Amgylcheddol –proses pwyso a mesur yr holl bolisïau mewn cynllun datblygu ar gyfer eu goblygiadau byd-eang, cenedlaethol a lleol.
Gwyro – datblygiad a gynigir sydd heb fod yn unol â chynllun lleol ond y mae’r awdurdod lleol yn barod i’w dderbyn oherwydd amgylchiadau eithriadol – ar ôl rhoi cyhoeddusrwydd llawn iddo a’i gyfeirio o bosibl at yr Ysgrifennydd Gwladol neu at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Hawl Tramwy Gyhoeddus – ffordd y mae gan y cyhoedd yr hawl i gerdded ar hyd-ddi, ac mewn rhai achosion farchogaeth ceffylau, beiciau, beiciau modur neu yrru moduron, a fydd wedi ei dynodi naill ai’n llwybr troed, ffordd marchogaeth, ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus (RUPP) neu yn is-ffordd.
Hawliau Datblygu a Ganiateir – hawliau i wneud rhai mathau o ddatblygiad cyfyngedig heb yr angen am wneud cais am ganiatâd cynllunio, fel y rhoddir o dan delerau Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
Heneb Restredig – adeiladwaith a osodir ar restr, a luniwyd gan yr Adran National Heritage yn Lloegr a Cadw yng Nghymru, i’w warchod o dan y Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol.
Hysbysiad Gorfodi – hysbysiad yn gofyn am ddirwyn defnydd anawdurdodedig i ben ac/neu ddymchwel adeiladau ac adfer tir, lle y mae datblygiad wedi ei ddechrau heb ganiatâd neu yn groes i amod.
Hysbysiad prynu – mae hyn yn gofyn i awdurdod cynllunio lleol brynu buddiant mewn tir lle y bo penderfyniad cynllunio yn gwrthdaro â budd preifat perchenogion tir
Hysbysiad Stop – hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â thir sy’n destun achos gorfodi yn gwahardd gwneud neu barhau â gweithgaredd penodol yr honnir eu bod yn gyfystyr â thorri rheolaeth gynllunio; fe’i bwriedir i stopio gwaith rhag parhau tra disgwylir canlyniad apêl.
Iawndal Tir – mae’n ymwneud ag asesu iawndal lle y mae tir, neu fuddiant arall mewn tir, yn cael ei gaffael, naill ai’n orfodol, neu trwy gytundeb, gan awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol.
Llain Las – ardal ddynodedig arbennig o gefn gwlad a warchodir rhag y rhan fwyaf o fathau o ddatblygu er mwyn atal y dref rhag lledaenu ac ymdoddi aneddiadau, er mwyn diogelu cymeriad aneddiadau sy’n bodoli eisoes ac ysgogi datblygiad lleoli o fewn iardaloedd adeiledig presennol.
Lles Cynllunio – egwyddor datblygwr yn cytuno i ddarparu buddiannau neu warantiadau ychwanegol, yn aml er lles -y gymuned, fel arfer ar ffurf datblygiad cysylltiedig a gyflwynir ar gost y datblygwr.
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Corff sy’n datblygu ac yn rhoi polisi ar waith yng Nghymru trwy’r gwasanaeth sifil ac ystod o gyrff noddedig.
© Crown Copyright 2008