Choose country and language preference
Mabwysiadu – cadarnhad terfynol cynllun fel dogfen statudol gan yr awdurdod cynllunio lleol.
Man Agored Cyhoeddus (POS) – tir a ddarperir mewn ardaloedd trefol neu wledig ar gyfer gweithgareddau hamdden y cyhoedd, er nad yw o angenrheidrwydd yn eiddo cyhoeddus.
Map Cynigion - rhan orfodol o gynlllun lleol yn dangos lleoliad cynigion yn y cynllun ar fap ar sail Arolwg Ordnans.
Newid Defnydd– y cyfeirir ato’n gywirach fel ‘newid defnydd sylweddol’. Newid y defnydd a wneir o dir ac adeiladau sydd yn arwyddocaol yng nghyd-destun dibenion cynllunio, y mae caniatâd cynllunio’n aml yn ofynnol ar ei gyfer.
Nodiadau Arweiniad Cynllunio Rhanbarthol (RPG) – arweiniad polisi a chyngor a gyhoeddir ar gyfer pob rhanbarth yn Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Nodiadau Canllawiau Cynllunio Mwynau (MPG) – cyfres o ddogfennau a gyhoeddir gan yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau yn nodi polisi llywodraeth ac yn rhoi cyngor ar faterion cynllunio perthnasol i adnoddau mwynol.
Nodiadau Cyfarwyddyd Polisi Cynllunio (PPG) – cyfres o ddogfennau a gyhoeddir gan yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau yn nodi polisi a chyngor llywodraeth ar faterion cynllunio megis tai, trafnidiaeth, cadwraeth ayb
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) - nodiadau cyngor technegol i Gymru sy’n darparu atodiadau seiliedig ar bynciau i’r ddogfen bolisi Polisi Cynllunio Cymru.
Nwyddau Cymharol - nwyddau ar gyfer eu manwerthu nad ydynt yn darfod ac sydd yn aml yn cael eu stocio mewn amrediad eang o feintiau, arddulliau, lliwiau ac ansawdd, yn cynnwys dodrefnn, carpedi, setiau teledu ayb.
Parc Cenedlaethol – darn o gefn gwlad atyniadol sydd bron yn gyfangwbl agored a ddynodir o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn awdurdod cynllunio lleol gyda’i rôl a’i swyddogaeth weinyddol a rheoli ei hun.
Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig (GSHI) – parciau a gerddi yn cynnwys nodweddion hanesyddol yn dyddio o 1939 neu’n gynharach ac wedi eu cofrestru gan English Heritage mewn tair graddfa fel gydag adeiladau hanesyddol.
Parcio a Theithio – cynllun yn galluogi modurwyr i adael eu cerbydau ar feysydd parcio ar gyrion trefi a theithio i ganol trefi ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Parthau Parcio Rheoledig (CPZ) – ardal lle y mae y gofod yn ymyl y pafin i gyd yn cael ei reoli gan naill ai gyfyngiadau aros neu lwytho neu gan leoedd parcio dynodedig.
Penderfyniad – proses awdurdod cynllunio lleol i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ar ddatblygiad a gynigir
Polisi a Rhaglen Trafnidiaeth (TPP) – dogfen statudol yn nodi cais awdurdod trafnidiaeth am raglenni ac ariannu mesurau trafnidiaeth, a gynhyrchir yn flynyddol i’w chyflwyno i’r llywodraeth ganolog.
Polisi Cynllunio Cymru – Dogfen yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Polisi Cynllunio Mwynau Cymru – Dogfen yn nodi polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â defnyddio dyddodion mwynau tymor byr a hir dymor yn y dyfodol a’u gwarchod.
© Crown Copyright 2008