Skip to content

Choose country and language preference

Pensaerniaeth

Ffynonellau gwybodaeth Archeoleg, Cadwraeth a Phensaernïaeth - Casgliad o ffynonellau gwybodaeth gan Lyfrgell Prifysgol Caer.

Aviation Environment Foundation

Corff Anlywodraethol nad yw'n un o gyrff y Llywodraeth ac nad yw'n gwneud elw, sydd wedi ei leoli yn y DG ac sy'n gweithio'n llwyr ar effeithiau amgylcheddol awyrennau.

20th Century Society

Pwrpas y Twentieth Century Society yw amddiffyn treftadaeth pensaerniaeth a chynllunio ym Mhrydain o 1914 ymlaen

Architectural Heritage Fund

Elusen gofrestredig yw'r Architectural Heritage Fund (AHF) sy'n cynorthwyo i atgyweirio a rhoi bywyd newydd i adeiladau hanesyddol o bob math ledled y Deyrnas Gyfunol.

Centre for Advanced Studies in Architecture

Mae CASA yn ymwneud ag integreiddio dau faes sy'n ymddangos yn wahanol, hanes pensaernïaeth a chyfrifiadureg.

Civic Trust

Y Civic trust yw'r brif elusen ym Mhrydain sydd wedi ymroi i wella ansawdd bywyd yn ninasoedd, trefi a phentrefi Prydain.

Commission for Architecture and the Built Environment (CABE)

Mae CABE yn ymdrechu i wneud pensaernïaeth yn rhan annatod o'r genedl fel mai Lloegr fydd yn arwain Ewrop mewn buddsoddi cyhoeddus a phreifat mewn amgylcheddau adeiledig o safon uchel.

Council for British Archaeology

Gweithia'r CBA i hyrwyddo astudio amgylchedd hanesyddol Prydain, a'i ddiogelu, i roi fforwm ar gyfer barn archeolegol, ac i hybu diddordeb cyhoeddus yng ngorffennol Prydain a gwybodaeth amdano.

English Heritage

Cynigia English Heritage gipdrem ar y gorffennol trwy ymweliadau ag eiddo hanesyddol ac ail-greu brwydrau, cymorthdaliadau cadwraeth, a chloddio archeolegol a llyfrau plant, ac mae'n hybu cyfraniad y gorffennol at fywydau pawb heddiw ac i'r dyfodol.

English Historic Towns Forum

Mae EHTF yn hyrwyddo ac yn cysoni ffyniant a chadwraeth mewn trefi hanesyddol

Garden History Society

Mae'r Garden History Society yn hyrwyddo astudio hanes garddio, garddio tirlun a garddwriaeth. Gweithia dros warchodaeth a chadwraeth parciau hanesyddol, gerddi a thirlun cynlluniedig ac i gynghori ar eu hadfer.

Georgian Group

Mae'n achub adeiladau Sioraidd, cofgolofnau, parciau a gerddi rhag cael eu difrodi neu eu handwyo, a lle y bo'n angenrheidiol, mae'r hybu eu hatgyweirio neu eu hadfer yn briodol ac mae'n amddiffyn a gwella eu lleoliad.

Landmark Trust

Elusen cadwraeth adeiladau annibynnol yn y DG yw'r Landmark Trust a sefydlwyd ym 1965 i achub adeiladau hanesyddol teilwng rhag esgeulustod ac yna i'w hadfer a'u gosod i bobl gael bwrw'u gwyliau ynddynt.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Miss Octavia Hill, Syr Robert Hunter a'r Canon Hardwicke Rawnsley, tri o ddyngarwyr Oes Victoria, a seftydlodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895 i gaffael a gwarchod tirlun ac adeiladau oedd dan fygythiad. Bellach mae 248,000 hectar o gefn gwlad, 600 milltir o arfordir, a rhagor na 200 o adeiladau a gerddi yn ei meddiant, y rhan fwyaf yn rhoi mynediad i'r cyhoedd ac mae ganddo 2.7 miliwn o aelodau.

SAVE Britain's Heritage

Ymgyrcha SAVE dros adeiladau hanesyddol sydd dan fygythiad ' Dyma'r lle cyntaf i edrych am adeiladau i gael eu hadfer

Society for the Protection of Ancient Buildings

Sefydlwyd y Society for the Protection of Ancient Buildings gan William Morris yn 1887 i wrthweithio yr 'adfer' difäol iawn oedd yn digwydd i adeiladau canoloesol gan lawer o benseiri Oes Victoria.

Victorian Society

Cymdeithas genedlaethol sy'n gyfrifol am astudiaeth a gwarchod pensaernïaeth a chelfyddyd arall Oes Victoria a'r Cyfnod Edwardaidd yw'r Victorian Society.Fe'i sefydlwyd yn 1958 i frwydro yn erbyn anwybodaeth affwysol am bensaernïaeth y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.

Useful links: Architecture, Building Conservation and Archaeology