Choose country and language preference
Bu’r British Trust for Ornithology mewn bodolaeth ers 1933 fel ymddiriedolaeth annibynnol yn gwneud ymchwil wyddonol, ymchwilio i boblogaethau, mudiad ac ecoleg adar gwyllt yn Ynysoedd Prydain.
Council for the Preservation of Rural England
Bodola’r Council for the Protection of rural England i hyrwyddo harddwch, tawelwch ac amrywiaeth cefn gwlad Lloegr drwy hybu’r defnydd cynaliadwy o dir ac o adnoddau naturiol eraill yn y dref ac yn y wlad.
Cymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad
Corff i Gymru a Lloegr yw’r Gymdeithas Tir a Busnes yng Nghefn Gwlad a’i hunig fwriad yw diogelu lles tirfeddianwyr preifat a busnesau gwledig.
Farming an Wildlife Advisory Group
Elusen yw’r Farming and Wildlife Advisory Group sy’n cyflogi Ymgynghorwyr Cadwraeth Ffermydd yn y siroedd ac yn y rhanbarthau sy’n ymweld â ffermwyr a thirfeddianwyr i gynnig cyngor ar integreiddio nodweddion cadwraeth gyda amaethyddiaeth fasnachol, trwy fabwysiadu dulliau amgylcheddol gyfrifol o ffermio.
Comisiwn Coedwigaeth Prydain yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am warchod ac ymestyn fforestydd a choetiroedd ym Mhrydain.
Mae Cyfeillion y Ddaear yn ceisio atebion i broblemau amgylcheddol er mwyn gwneud bywyd yn well i bobl.
Mae Groundwork yn un o’r prif elusennau sy’n ymwneud ag adferiad amgylcheddol. O gynlluniau cymunedol bach i raglenni rhanbarthol a chenedlaethol mawr, mae ei rwydwaith o dros 40 o ymddiriedolaethau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â phobl leol, awdurdodau lleol a busnesau i hybu adferiad economaidd a chymdeithasol trwy welliannau i’r amgylchedd lleol.
Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar – RSPB
Elusen yw’r RSPB sy’n cymryd gweithredu er budd adar gwyllt a’r amgylchedd. Mae’n cynnal 150 o warchodfeydd natur sy’n cwmpasu 100,000 hectar o’r prif gynefinoedd bywyd gwyllt, ac ymdrecha i ddiogelu bywyd gwyllt lle bynnag y mae’n bod.
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid – RSPCA
Ers dyddiau cynnar a distadl y Gymdeithas ynn 1824 pan y’i hadwaenid yn Gymdeithas er Atal Creulondeb i Anifeiliaid - gweithiodd yr RSPCA yn ddi-ildio i hyrwyddo caredigrwydd ac atal creulondeb i anifeiliaid.
Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw’r elusen genedlaethol sy’n gweithio i wrachod a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy’n teilyngu statws Parc Cenedlaethol, ac i hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
Hyrwydda English Nature gadwraeth bywyd gwyllt a nodweddion naturiol Lloegr. Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac mae’n gorff statudol a ariennir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Bodola Cymdeithas y Crwydrwyr i hwyluso, er lles pawb, y mwynhad a all ddeillio o gerdded a gwneud darganfyddiadau yn yr awyr agored, ac i hyrwyddo parch at fywyd cefn gwlad.
Cefnoga Cymdeithas y Pridd fwyd organig, ffermio a choedwigaeth gynaliadwy.
Hyrwydda’r Wildfowl & Wetlands Trust (WWT) gadwraeth gwlyptiroedd gan ganolbwyntio ar adar prin y gwlyptir. WWT yw’r elusen cadwraeth gwlyptir rhyngwladol fwyaf yn y DG.
Partneriaeth Wildlife Trusts yw elusen gadwraeth flaenaf y DG sydd wedi ei sefydlu’n unswydd i warchod bywyd gwyllt. Mae ei rhwydwaith o 46 o ymddiriedolaethau bywyd gwyllt lleol a’i is-gangen, Wildlife Watch, yn gweithio ar y cyd i warchod bwyd gwyllt yn y dref ac yng nghefn gwlad.
Y Woodland Trust yw elusen gadwraeth flaenaf y DG sydd wedi ei sefydlu’n unswydd ar gyfer gwarchod y dreftadaeth coedwigoedd brodorol.
Ers ei sefydlu yn 1961, daeth y World Wildlife Fund yn un o gyrff annibynnol mwyaf a mwyaf effeithiol y byd a sefydlwyd yn unswydd i weithio dros gadwraeth natur. Cyrhaeddodd y statws hwn ar sail ei record gyson o gampau cadwraeth.
© Crown Copyright 2008