Choose country and language preference
Corff statudol yw’r Countryside Agency sy’n gweithio: i gadw a gwella cefn gwlad, i hyrwyddo cydraddoldeb cymdeithasol a chyfleoedd economaidd ar gyfer pobl sy’n byw yno ac i helpu pawb, lle bynnag y maent yn byw, i fwynhau’r ased cenedlaethol hwn.
Ymgorffora Crown Estat ystad drefol yn cynnwys daliadau arwyddocaol yn Llundain, yn arbennig yn Regent Street, Regent’s Park a St James’s, ynghyd â bron 120,000 hectar o dir amaethyddol ac asedau morol helaeth ledled y DG.
Asiantaeth yr Amgylchedd yw’r prif gorff cyhoeddus er gwarchod a gwella’r amgylchedd yng Nghymru a Lloegr. Gweithia mewn sawl ffordd i gyflawni hyn – trwy reoleiddio diwydiant, cynnal amddiffynfeydd llifogydd ac adnoddau dwr, a gwella cynefinoedd bywyd gwyll, ayyb.
Corff annibynnol i gadw llygad ar ddiogelwch bwyd yw’r Food Standards Agency a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol yn 2000 i warchod iechyd y cyhoedd a buddiannau’r defnyddiwr mewn perthynas â bwyd.
Un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau yw’r Highways Agency . Mae’n rheoli, cynnal a gwella’r rhwydwaith o gefnffyrdd a thraffyrdd yn Lloegr ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol
Improvement & Development Agency
Gweithia’r Improvement and Development agency ar flaengaredd mewn Llywodraeth Leol.
Gweithia’r Arolygiaeth Gynllunio i’r Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau (y DETR yn flaenorol) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar ystod o waith achos o dan ddeddfwriaeth Cynllunio a’r Amgylchedd.
Un o asiantaethau gweithredol Treth y Wlad yw‘r Valuation Office Agency (VOA) gyda 80 o swyddfeydd wedi eu gwasgaru ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyflogi tua 4,000 o bobl.
© Crown Copyright 2008