Choose country and language preference
Y Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog (COI)
Cysylltiadau y Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog yw tîm cyfathrebu'r llywodraeth. Gweithia mewn partneriaeth gydag adrannau ac asiantaethau cleientiaid i roi atebion cysylltiadau effeithiol.
Porth Recriwtio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae angen ystod eang o bobl ar y llywodraeth. Mae cyfle i bawb. Rhedwn sawl math o gynlluniau recriwtio gwahanol. Trefnir rhai ohonynt yn ganolog, gan unedau rheoli canolog. Rhedir y mwyafrif gan adrannau ac asiantaethau unigol.
Sefydlwyd y Coal Authority gan y Senedd yn 1994 i ymgymryd â chyfrifoldebau statudol penodol cysylltiedig â thrwyddedu gweithgareddau cloddio glo ym Mhrydain a thrafod ceisiadau difrod llithriadau tir sydd heb fod yn gyfrifoldeb gweithredwyr trwyddedig pyllau glo.
Commission for Integrated Transport
Cynghora'r Commission for Integrated Transport y Llywodraeth ar roi'r polisi trafnidiaeth integredig ar waith, a monitro datblygiadau ar draws trafnidiaeth, iechyd, yr amgylchedd a sectorau eraill.
Mae gwefan y Cyngor Tribiwnlysoedd yn cynnwys gwybodaeth am aelodaeth a gwaith y Cyngor a'i Bwyllgor yn yr Alban, testun adroddiadau blynyddol diweddar ac arbennig, a chysylltiadau i fyd mawr ac amrywiol tribiwnlysoedd yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a thramor.
Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)
Mae gan Adran y Llywodraeth dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyfrifoldeb o ran polisi dros amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd, y dreftadaeth adeiledig, y celfyddydau, chwaraeon, addysg, darlledu a'r cyfryngau a thwristiaeth, ynghyd â'r diwydiannau creadigol a'r Loteri Genedlaethol.
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Llywodraeth yn amcanu at hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, sy'n golygu gwell ansawdd bywyd i bawb, yn awr ac i'r cenedlaethau i ddod, yn cynnwys gwell amgylchedd gartref ac yn rhyngwladol a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol.
Mae gwefannau Adran Masnach a Diwydiant y llywodraeth yn cynnig ystod eang o wybodaeh i ddefnyddwyr, busnesau, cyflogeion, ac unrhyw un gyda diddordeb ym myd gwaith. Pa un ai gwybodaeth am y diwydiant aerospace neu'r diwydiannau bio-tec sydd ei hangen angen yn un am wybodaeth ar y diwydiant aerospace neu'r diwydiannau bio-tec neu arweiniad ar y rheoliadau diweddaraf, mae'n bosibl y bydd yr Adran yn gallu cynorthwyo.
Anela Adran y Llwyodraeth dros Drafnidiaeth at gael gwell trafnidiaeth.
Comisiwn Coedwigaeth Prydain yw adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am warchod ac ymestyn fforestydd a choetiroedd ym Mhrydain.
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Ceisia Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sicrhau bod risgiau i iechyd a diogelwch pobl gan weithgareddau gwaith yn cael eu rheoli'n gywir.
Mae'r Gofrestrfa Dir yn diogelu'r teitl i dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr ac yn cofnodi perchnogaeth arno a diddordeb ynddo.
Cyhoedda Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO) ddogfennau swyddogol a gweithreda fel rhan o Swyddfa'r Cabinet o dan reolaeth weinidogaethol y Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet.
Y Swyddfa Gartref yw’r Adran Llywodraeth syn gyfrifol am faterion mewnol Cymru a Lloegr.
Mae’r Information Commissioner yn gyfrifol am Ddeddf Diogelwch Gwybodaeth a Rhyddid Gwybodaeth.
Mae Cyllid y Wlad yn gyfrifol, o dan gyfarwyddyd cyffredinol Gweinidogion y Trysorlys, am weinyddiad effeithiol treth y wlad, credydau treth, treth gorfforaethol, treth enillion cyfalaf, treth ar betrol, treth etifeddiaeth, cyfraniadau yswiriant gwladol a thollau stamp.
Prif rôl adrannol yr Arglwydd Ganghellor yw sicrhau gweinyddiad effeithiol cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.
Cronfa Ddata Cyfraith Statudol Adran yr Arglwydd Ganghellor
Y Swyddfa Cyhoeddiadau Statudol (SPO), swyddfa oddi fewn i Adran yr Arglwydd Ganghellor, sy’n cynhyrchu Cronfa Ddata Cyfraith Statudol (SLD) o ddeddfwriaeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’r Gronfa Ddata sy’n cael ei datblygu’n gyfredol yn cynnwys testun yr holl Ddeddfau a oedd mewn grym ar 1 Chwefror 1991, a phob Deddf ac Offeryn Statudol argraffedig a ddaeth i rym ers hynny.
Diben y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r lluoedd arfog, yw amddiffyn y Deyrnas Gyfunol, a’r Tiriogaethau Tramor, ein pobl a’n buddiannau a gweithredu fel grym er daioni trwy gryfhau heddwch rhyngwladol a diogelwch.
Yr Arolwg Ordnans yw’r arweinydd cydnabyddedig rhyngwladol ym maes mapiau a mapio. Cynigia ystod ehangach o gynnyrch nag unrhyw gorff cymharol, o fapiau cerdded a mapiau ffyrdd i’r mapiau graddfa-fawr a chynhyrchion digidol sydd bellach yn cynrychioli’r rhan fwyaf o’u busnes.
Yr Archifdy Gwladol yw archif genedlaethol Cymru, Lloegr a’r Deyrnas Gyfunol. Casgla a chadwa gofnodion y llywodraeth ganol a’r llysoedd cyfraith.
Gwefan y Prif Weinidog
© Crown Copyright 2008