Choose country and language preference
Y Gymdeithas Bensaernïol - Sefydlwyd y Gymdeithas Bensaernïol yn 1847 fel fforwm ar gyfer trafod a diwygio pensaernïaeth. Dros 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae’n parhau i fod yn lleoliad ar gyfer darlithoedd ac arddangosfeydd pensaernïol yn Llundain, ac mae’n rhedeg un o’r prif ysgolion pensaernïol yn y byd.
Architects Online - Gwasanaeth swyddi a gwybodaeth ar y we ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn pensaernïaeth a chynllunio. Mae’r gwasanaeth yn darparu ar gyfer y proffesiwn pensaernïol, cyflenwyr i wasanaethau pensaernïol a chynllunio a’u defnyddwyr – yn fyr, unrhyw un sy’n ymddiddori mewn penseiri a phensaernïaeth.
Y Sefydliad Ymchwil Adeiladu - Mae’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn un o’r prif ganolfannau yn y DG ar gyfer arbenigedd adeiladu a thân, ac mae’n darparu gwasanaethau ymgynghori, profi a gwybodaeth i gwsmeriaid ar draws y byd.
Sefydliad Siartredig Tai - Y Sefydliad Siartredig Tai yw’r corff proffesiynol i bobl sy’n gweithio ym maes tai. Ein pwrpas yw gwneud y defnydd mwyaf o’r cyfraniad y gall gweithwyr proffesiynol ym maes tai ei wneud er lles cymunedau.
Council for British Archaeology - Gweithia’r Council for British Archaeology i hyrwyddo astudiaeth o amgylchedd hanesyddol Prydain a’i warchod, i ddarparu fforwm ar gyfer barn archeolegol, ac i ysgogi diddordeb y cyhoedd a gwybodaeth o orffennol Prydain.
A chanddo fwy na 15,000 o gwmnïau yn aelodau, Ffederasiwn y Penadeiladwyr yw cymdeithas grefft fwyaf y diwydiant adeiladu yn y DG.
Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai - Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai yw’r ffederasiwn crefft ar gyfer adeiladwyr tai preifat yng Nghymru a Lloegr.
Sefydliad Peirianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Morol - Y sefydliad hwn yw’r corff byd-eang mwyaf o aelodau proffesiynol ar gyfer y rhai ym mhob sector o’r diwydiant morol.
Sefydliad y Peirianwyr Sifil - Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn sefydliad peirianyddol annibynnol. Fe’i sefydlwyd yn 1818, ac erbyn heddiw cynrychiola dros 80,000 o beirianwyr proffesiynol cymwysedig ar draws y byd a’r diwydiant peirianaeth sifil.
Institute of Logistics & Transport - Maer Institute of Logistics & Transport yn ffocws i ragoriaeth broffesiynol. Hyrwydda ddatblygiad y technegau mwyaf perthnasol ac effeithiol mewn logisteg a thrafnidiaeth, a pholisïau syn ymateb i heriaur byd sy'n newid.
Institution of Highways & Transportation - Sefydlwyd yr Institution of Highways & Transportation yn 1930 fel yr Institution of Highway Engineers.
Y Sefydliad Tirlun - Y Sefydliad Tirlun ywr Sefydliad Siartredig yn y DG ar gyfer Penseiri Tirlun, yn ymgorffori cynllunwyr, rheolwyr a gwyddonwyr, syn ymwneud â gwella a gwarchod yr amgylchedd.
Rheolaeth Adeiladau yr Awdurdodau Lleol - Mae Rheolaeth Adeiladau yr Awdurdodau Lleol (LABC) wedi ymdynghedu i gynnal y safonau uchaf mewn cynllunio adeiladau au codi. Fei seiliwyd ar wasanaeth annibynnol syn atebol yn gyhoeddus, gan sicrhau bod adeiladau yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch.
Cymdeithas yr Awdurdodau Lleol - Dathlodd y gymdeithas bum mlynedd lwyddiannus o lobïo, blaengaredd a chyfathrebu mewn llywodraeth ym mis Ebrill 2002.
Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai - Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai, a sefydlwyd dros 60 mlynedd yn ôl yw gosodwr safon a rheoleiddiwr annibynnol y diwydiant cartrefi newydd. Mae'n anelu at gynorthwyor diwydiant codi tai i godi tai newydd oansawdd da i gwrdd â disgwyliadau rhesymol prynwyr tai.
New Engineering Contract - Fframwaith gyfreithiol gweithdrefnau rheolaeth prosiect a gynlluniwyd i ymdrin â phob agwedd o reolaeth prosiectau peirianyddol ac adeiladu yw'r New Engineering Contract (NEC).
Cymorth Cynllunio: Cael cefnogaeth a chymorth proffesiynol - Mae'r RTPI hefyd yn gweithredu rhwydwaith Cymorth Cynllunio lle y mae cynllunwyr gwirfoddol yn rhoi cyngor annibynnol rhad ac am ddim i grwpiau cymunedol ac unigolion nad ydynt yn gallu fforddio ymgynghorydd. Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer eich gwasanaeth Cymorth Cynllunio lleol ar wefan yr RTPI.
Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol - Mae'r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol yn gorff sefydlog annibynnol a sefydlwyd yn 1970 i gynghorir Frenhines, y Llywodraeth, y Senedd ar cyhoedd ar faterion amgylcheddol.
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain - Adeiladwyd y wefan hon o dri deg o wefannau bach, pob un âi hafan ei hun ai botwm e-bost ei hun. Fei lluniwyd yn y modd hwn er mwyn creu gwefan fyw y gellir ei diweddaru yn gyflym ac uniongyrchol gan staff y Sefydliad.
Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (RICS) - A chanddo 110,000 o aelodau mewn 120 o wledydd, Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig ywr corff proffesiynol syn mynd ir afael a phob agwedd ar dir, eiddo, adeiladu ar materion amgylcheddol cysylltiedig.
Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol - Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ywr corff aelodaeth ar gyfer cynllunwyr gwlad a thref proffesiynol. Mae cynllunion ymwneud ag ailsiapio a rheolir amgylchedd. Mae cynllunion ffactor allweddol mewn ymarfer datblygiad cynaliadwy oherwydd ei fod yn ymdrin âr gydberthynas ffisegol rhwng ein hamcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
© Crown Copyright 2008