Choose country and language preference
Gwefannau Llywodraeth Leol - Cynnigir dolenni i'r holl wefannau llywodraeth lleol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Senedd yr Alban - Gwefan Senedd yr Alban y corff deddfwriaethol yn yr Alban.
Scotish Inquiry Reporters Unit - Mae'r uned yn trafod apeliadau cynllunio yn yr Alban.
Scottish Executive - Y diben cyffredinol yw cynnal a datblygu'r fframwaith cynllunio statudol, a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ei weithrediad mewn diogelu ansawdd amgylcheddol, gan ddatblygu cyfleoedd datblygu a sicrhau bod y cyhoedd yn rhan o'r gwaith.
Swyddfa Gogledd Iwerddon - Rôl Swyddfa Gogledd Iwerddon yw cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn y gwaith o sicrhau heddwch parhaol, wedi ei seilio ar Gytundeb Gwener y Groglith, lle y mae hawliau a hunaniaeth pob traddodiad yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu parchu'n llawn a'u diogelu ac o greu'r hinsawdd i gymdeithas ddiogel, sefydlog, gyfiawn a goddefgar ffynnu a llwyddo.
Gwasanaeth Cynllunio Gogledd Iwerddon - Mae cynllunio datblygu yn golygu gosod polisïau manwl a chynigion penodol ar gyfer datblygiad a defnydd tir yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r cynlluniau a gynhyrchwyd yn darparu ffrâm bwysig i gyfeirio ati gan ddatblygwyr ac ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio.
Comisiwn Apeliadau Cynllunio - Corff apêl annibynnol yw'r Comisiwn Apeliadau cynllunio y cyfeirir ato'n aml fel PAC a sefydlwyd dan statud i ymdrin ag ystod eang o faterion cynllunio defnydd tir a materion cysylltiedig yng Ngogledd Iwerddon.
© Crown Copyright 2008