Choose country and language preference
Dyfrffyrdd Prydain - Pwrpas y wefan hon yw datgelu byd cudd rhwydwaith dyfrffyrdd mewnol Prydain. Mae’n dangos sut i ddod o hyd iddynt a’u mwynhau, sut y cânt eu rheoli a sut y gallwch gael rhan yn y gwaith o’u cadw i’r dyfodol. Gallwch gofrestru i dderbyn gwybodaeth bersonol trwy e-bost.
Cymdeithas Adfywio Trefol Prydain - Ffurfiwyd BURA yn 1990 i ddarparu fforwm ar gyfer cyfnewid syniadau, profiad a gwybodaeth ar gyfer y sector adfywio sy’n brigo i’r wyneb. Daeth BURA bellach yn un o’r prif gyrff annibynnol ym maes adfywio.
Canolfan Addysg yn yr Amgylchedd Adeiledig - Mae’r Ganolfan Addysg yn yr Amgylchedd Adeiledig yn un o’r pedair canolfan pwnc ar hugain sy’n rhan o’r Rhwydwaith Cefnogi Dysgu ac Addysgu (LTSN).
Uned Rhyngwladol Ymchwil Drefol - Mae GURU yn cynnwys y tri canolfan ymchwil o fewn yr Ysgol Bensaernïaeth, Cynllunio a Thirlun Newcastle.
Canolfannau Cynghori - Mae pum miliwn o bobl yn ceisio cymorth gan y Canolfannau Cynghori bob blwyddyn. Mae’r canolfannau (CAB) yn cynorthwyo i ddatrys problemau sy’n ganolog i fywydau pobl, yn cynnwys dyled a materion defnyddwyr, budd-daliadau, tai, materion cyfreithiol, cyflogaeth a mewnfudo.
Yr Awdurdod Hedfan Sifil - Sefydlwyd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) gan y Senedd yn 1972 fel rheoleiddiwr hedfan arbenigol annibynnol a darparwr gwasanaethau traffig awyr.
Porth Defnyddwyr - Mae’r wefan hon yn darparu mynediad ar-lein i wybodaeth a chyngor i gwsmeriaid. Cysyllta â gwefannau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor sy’n cael eu rhedeg gan adrannau Llywodraeth, cyrff defnyddwyr ac eraill.
Development Trusts Association - Rhwydwaith adfywio sy’n seiliedig ar y gymuned yw’r Development Trusts Association. Corff aelodaeth annibynnol ydyw a ffurfiwyd gan ymarferwyr ymddiriedolaethau datblygu yn 1992.
Empty Homes Agency - Elusen tai annibynnol ydyw a sefydlwyd yn 1992. Mae’n bodoli i amlygu cywilydd tai gwag a wastreffir ac a danddefnyddir ledled Lloegr.
English Partnerships - Gweithia mewn partneriaeth gyda llywodraeth ganol a lleol, yr asiantaethau datblygu rhanbarthol, y sector preifat, y sector gwirfoddol a chyrff eraill i greu adfywiad a datblygiad economaidd cynaliadwy.
Esprid - Ffynhonnell Wybodaeth seiliedig ar wefan i ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi sy’n ymwneud â chynllunio gofodol strategol mewn cyd-destun Ewropeaidd.
European DataBank (EUDB) - Mae’r DataBank wedi ei gynllunio i restru sefydliadau, cymdeithasau ac arbenigwyr ledled Ewrop sy’n ymwneud mewn theori ac/neu’n ymarferol a’r gwaith o gyrraedd datblygiad cynaliadwy ar raddfa rymgwladol, cenedlaethol a rhanbarthol.
Cyngor y Sipsiwn - Mae Cyngor y Sipsiwn yn ymwneud â rhychwant eang o waith cefnogi a chydgysylltu, ac yn cefnogi teuluoedd sipsiwn i wneud ceisiadau cynllunio ac i frwydro am leoedd gweddus, cyfreithiol i fyw ynddynt.
Y Gorfforaeth Dai - Corff cyhoeddus an-adrannau a noddir gan yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau yw’r Gorfforaeth Dai . Mae’n gwneud yn siwr bod targedau perfformiad cyflwyno tai yn cael eu gwireddu ac mae’n rhoi cyngor i weinidogion ar faterion tai, polisi a’i weithredu.
Y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Adeiladau Traddodiadol, Pensaernïaeth a Bywyd Trefol(INTBAU) - Nod y Rhwydwaith yw creu rhwydwaith gweithredol o unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i greu adeiladau dynol a chydweddol a lleoedd sy’n parchu traddodiadau lleol.
Sefydliad Joseph Rowntree - Elusen ymchwil polisi cymdeithasol a datblygiad annibynnol fwyaf y DG yw Sefydliad Joseph Rowntree. Mae’n cefnogi rhaglen eang o ymchwil a phrosiectau datblygu ym maes tai, gofal cymdeithasol a pholisi cymdeithasol.
Landscape Information Hub - Nod y prosiect yw sefydlu rhwydwaith rhithwir o addysgwyr ac ymarferwyr tirlun trwy greu Both Wybodaeth Tirlun seiliedig ar wefan (LIH).
Cronfa Ddata Defnydd Tir Genedlaethol - Ceir gwybodaeth ar y wefan ar amcanion a statws cyfredol y fenter NLUD – prosiect partneriaeth rhwng Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau, English Partnerships, Asiantaeth Gwella a Datblygu (yn cynrychioli diddordebau llywodraeth leol) a’r Arolwg Ordnans.
Partneriaethau Ar-lein - Mae’r Rhyngrwyd yn galluogi ‘cymunedau rhithwir’ i ddatblygu’n fyd eang, gan gysylltu â phobl ar draws y byd sydd â diddordebau cyffredin . Mae’r cymunedau rhithwir hyn fel arfer ar ffurf rhestrau postio, grwpiau newyddion a fforymau trafod y we.
Phoenix Trust - Mae’r Phoenix Trust yn caffael, atgyweirio a chael hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer adeiladau hanesyddol mawr a fyddai fel arall yn mynd â’u pen iddynt neu’n wynebu cael eu dymchwel, er budd y cymunedau y maent wedi’u lleoli ynddynt a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Plain English Campaign - Corff annibynnol seiliedig yn y DG sy’n brwydro i ddileu unrhyw ffurf ar ‘gobbledygook’.
Planning Exchange - Darparwyr gwasanaethau gwybodaeth ar adfywio a datblygu cymunedol, economaidd, amgylcheddol a ffisegol yn y DG.
Resource for Urban Design Information (RUDI) - Mae RUDI yn cynnig siop un alwad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynllunio trefol trwy ddwyn ynghyd gynnwys safon uchel gwybodaeth gyfeiriadurol a ffynonellau cyfeiriadaeth ar un wefan.
Sport England - Mae’r gyntaf o brif raglenni Sport England yn canolbwyntio ar ddenu mwy o bobl i gyfranogi o chwaraeon. Rydym ni yn ein tro wedi rhannu’r rhaglen yn dair elfen – Ysgolion Gweithgar, Cymunedau Gweithgar a Chwaraeon Corfforol.
The Theatres Trust - Sefydlwyd y Theatres Trust i ‘hyrwyddo gwarchodaeth well o theatrau’ ac mae creu y wefan hon yn rhan o strategaeth barhaus i ledaenu gwybodaeth ar waith yr Ymddiriedolaeth.
Y Fforwm Drefol - Corff ymbarel i grwpiau cymunedol a gwirfoddol gyda diddordeb mewn polisi trefol a rhanbarthol, yn arbennig adfywio ydyw. Fe’i sefydlwyd yn 1994 fel y corff gwirfoddol cenedlaethol y bydd llywodraeth ganol a lleol yn cysylltu trwyddo â’r gymuned a sectorau gwirfoddol ar faterion o’r fath.
Water UK - Mae Water UK yn cynrychioli’r holl gyflenwyr dwr a gweithredwyr dwr gwastraff ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd. Darpara fframwaith cadarnhaol ar gyfer y diwydiant dwr i gysylltu â llywodraeth, rheoleiddwyr, cyrff rhanddalwyr a’r cyhoedd.
© Crown Copyright 2008