Skip to content

Choose country and language preference

Polisi Cynllunio

Rhan ganolog o'i waith yw datblygu polisïau cynllunio ar gyfer ystod eang o bynciau fel datblygu economaidd, trafnidiaeth, yr Iaith Gymraeg, tai, y dreftadaeth adeiledig, mwynau, a llawer mwy.

Mae'r polisïau wedi'u disgrifio yn y cyhoeddiadau 'Polisi Cynllunio Cymru' (PDF 824 KB), ac yn 'Polisi Cynllunio Mwynau Cymru' (PDF 243 Kb), ac maent yn cael eu hategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol a Nodiadau Cyngor Technegol ar Fwynau.

Mae datblygu polisi yn cael ei ategu gan raglen ymchwil cynllunio, yng nghyd-destun ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod datblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol yn cydsynio ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Ymhlith ei chyfrifoldebau allweddol eraill mae cyfrannu at ddeddfwriaeth sylfaenol ac adolygu, datblygu a gweithredu is-ddeddfwriaeth.