Choose country and language preference
Un arall o'i brif rolau yw goruchwylio swyddogaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â'r system rheoli datblygu, gan gynnwys mynd i'r afael â materion perfformiad a phriodoldeb, a chynghori ar ddefnyddio'r pwerau ymyrryd mewn achosion penodol.
Mae'r Is-adran yn rhoi cyngor i Lywodraeth y Cynulliad a'r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ar ystod o achosion cynllunio.
Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar geisiadau y cyfeiriwyd ato i'w hystyried - galw i mewn - ac ar benderfyniadau ar ganlyniadau'r achosion hyn a cheisiadau'r Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith.
Hefyd, mae'r Is-adran yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag Asesiadau o Effaith Amgylcheddol y cynigion cynllunio, ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau sy'n ymwneud â charthu morol.
Mae'r Is-adran hefyd yn goruchwylio gweithgareddau Asiantaeth Weithredol yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru, a Chomisiwn Dylunio Cymru.
© Crown Copyright 2008