Skip to content

Choose country and language preference

Desg Wasanaeth

Mae'r Porth Cynllunio yn rhoi man cyswllt unigol i ddefnyddwyr ar gyfer cymorth technegol a chanllawiau ar ddefnydd ac argaeledd y Porth Cynllunio. Wrth ymdrin â digwyddiadau ac ymholiadau, ein nod yw cyflwyno:

  • Cymorth rhagorol ar gyfer gwasanaethau'r Porth Cynllunio
  • Ymateb i holl ymholiadau'r Ddesg Wasanaeth o fewn un diwrnod gwaith o'u derbyn
  • Atebion i Gwestiynau Cyffredin fel y gall defnyddwyr ddod o hyd i atebion i gwestiynau a phroblemau cyffredin
  • Atebion i ymholiadau ar fynediad, argaeledd a newidiadau arfaethedig, yn ogystal â chywiro diffygion cyffredinol
     

Am ragor o wybodaeth am y meysydd rydym yn rhoi cymorth ar eu cyfer, ewch i'n tudalen Cyfrifoldebau.

Mae Desg Wasanaeth y Porth Cynllunio ar gael rhwng 08:00 ac 18:00, ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus).  Gellir anfon negeseuon e-bost neu adael negeseuon llais y tu allan i oriau'r gwasanaeth hyn.

Am ragor o wybodaeth am sut i gysylltu â ni a phartïon perthnasol eraill, ewch i'n tudalen Cysylltu a Chysylltiadau.

I gloi, ni allwn ateb ymholiadau mewn cysylltiad ag unrhyw geisiadau cynllunio sydd dan ystyriaeth nac unrhyw faterion eraill sy'n gysylltiedig â chynllunio, nodwch y bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol yn uniongyrchol am yr ymholiadau hyn.

Arolwg Boddhad Cwsmeriaid

Mae Tîm Rheoli'r Porth Cynllunio yn edrych am ffyrdd i fireinio a gwella ein gwasanaeth cwsmeriaid o hyd. Os hoffech ddweud eich barn wrthym am ein gwasanaethau, ein sefydliad neu sut y gallwn wella, cwblhewch ein harolwg boddhad cwsmeriaid ar-lein.