Skip to content

Choose country and language preference

Newidiadau a Gwelliannau

Tîm Rheoli Newid y Porth sy'n gyfrifol am reoli ceisiadau am newidiadau i'r Porth.

Amcan y Tîm Rheoli Newid yw sicrhau bod pob newid:-

  • Yn briodol
  • Cost effeithiol
  • Yn cael yr effaith leiaf ar wasanaethau a ddarperir drwy'r Porth
  • Yn dilyn dulliau, gweithdrefnau a thechnolegau safonol
     

Mae'r adrannau canlynol yn rhoi manylion y mathau o newidiadau a'r mannau lle gall cwsmeriaid adolygu statws unrhyw newidiadau.

Awgrymiadau

Os oes gennych awgrymiadau am welliannau neu newidiadau i'r Porth, anfonwch e-bost at feedback@planningportal.gsi.gov.uk.

Cyn cyflwyno eich cais, gwiriwch y tudalennau Newidiadau dan Ystyriaeth a Newidiadau Arfaethedig i sicrhau nad awgrymwyd cais tebyg eisoes.

Newidiadau dan Ystyriaeth

Pryd bynnag y gwneir cais am newid, rhaid ei adolygu a'i gymeradwyo yn ein cyfarfod Rheoli Newid chwarterol cyn y gellir ei weithredu.

Gallwch wirio statws ceisiadau am newidiadau a awgrymwyd yn ein cofrestr cais newid ar y dudalen Newidiadau dan Ystyriaeth.

Newidiadau Arfaethedig

I ddysgu am newidiadau sydd ar ddod ar y Porth, ewch i'n tudalen Newidiadau Arfaethedig.

Cymeradwywyd y newidiadau hyn ac maent yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gall rhai newidiadau olygu na fydd y wefan ar gael am gyfnod dros dro, a chaiff ei gyhoeddi ar dudalen Toriadau a Gwaith Cynnal a Chadw a amserlennwyd.