Skip to content

Choose country and language preference

Chwilio am geisiadau cynllunio

Mae'r Gofrestr Genedlaethol o Geisiadau Cynllunio wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth ag Emap Glenigan.

Mae'r cynllun peilot yn eich galluogi i chwilio am wybodaeth am bob cais cynllunio am waith adeiladu a wnaed yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio hysbysebu, gwaith coed, ceisiadau ôl-weithredol, ac ati). O fis Gorffennaf 2006 caiff yr holl geisiadau hyn eu holrhain hyd y cam penderfynu.

Rhestr gyflawn o gynhwysiad/gwaharddiad mathau o geisiadau

Ni chodir tâl am y gwasanaeth a gallwch ei ddefnyddio i:

  • Chwilio am geisiadau cynllunio yn eich ardal
  • Darllen manylion am geisiadau, gan gynnwys disgrifiadau
  • Argraffu neu lawrlwytho restr o geisiadau ar gyfer ardal

 

Chwilio am geisiadau cynllunio

Mae'r Gofrestr Genedlaethol o Geisiadau Cynllunio yn ei gwneud yn bosibl i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sydd yn yr arfaeth, neu sy'n mynd rhagddynt yn agos i'ch cartref, neu mewn ardal yr ydych yn symud iddi o bosibl.
 
Fel arall, efallai yr hoffech gael gwybod sut mae'ch awdurdod wedi ystyried yn y gorffennol ddatblygiadau sy'n debyg i'r un sydd yn yr arfaeth gennych chi.
 
Am fanylion am sut y caiff y wybodaeth hon ei chasglu a'i phrosesu, gweler ein tudalen rhagor o wybodaeth.
 
Lansiwyd y Gofrestr Genedlaethol o Geisiadau Cynllunio fel cynllun peilot ym mis Tachwedd 2005 a chroesawn unrhyw sylwadau ar y system. Anfonwch e-bost atom yn feedback@planningportal.gsi.gov.uk.

 

Local Planning Information - Search for planning applications