Choose country and language preference
Rheolaeth Hysbysebu – y broses o benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol a yw hysbyseb sydd yn cael ei arddangos, neu ar fin cael ei harddangos, yn dderbyniol o ran amwynder a diogelwch cyhoeddus a’i bod yn cael ei harddangos yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheolaeth Hysbysebion).
Rheoli Canol Tref – partneriaeth o gyrff lleol, busnesau ac unigolion i hyrwyddo lles cyffredin tref trwy ddatblygu, rheoli, hyrwyddo a gwella cyfleusterau, yr adnoddau defnyddiol, yr economi ac amgylchedd canol y dref.
Rheoli Datblygu – y broses o benderfynu gan awdurdod cynllunio a yw cais cynllunio yn cwrdd â gofynion polisi cynllunio, yn arbennig fel y’u nodir gosodir yn y cynlluniau datblygu.
Rhybudd Dirwyn i Ben - rhybudd a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am ddirwyn i ben arddangos unrhyw hysbyseb, neu’r defnydd o’r safle ar gyfer arddangos hysbyseb, sydd â’r fantais o fod â chaniatâd tybiedig o dan Reoliadau Rheoli Hysbysebion. Efallai na fydd gweithredu i gyflwyno rhybudd dirwyn i ben ddim ond yn digwydd os yw’r awdurdod cynllunio yn fodlon bod yn rhaid gwneud hynny i gywiro niwed sylweddol i amwynder yr ardal neu berygl i aelodau’r cyhoedd.
Rhywogaethau a Warchodir – rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid, yn cynnwys yr holl adar gwyllt, a warchodir o dan Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol a Chadwraeth) 1994, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a gwelliannau wedi hynny, neu rywogaethau eraill a warchodir o dan ddeddfwriaeth sy’n benodol iddynt hwy.
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) - ardal a ddynodir gan English Nature neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer ei gwarchod ar sail ei chadwraeth natur a’i nodweddion bywyd gwyllt prin.
Safle Tir Glas – ardal na ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer datblygiad adeiledig.
Safle Tir Llwyd – tir ag afodd ei ddatblyguflaenorol, heblaw am waith mwynau neu ddefnydd dros dro arall.
Safleoedd Daearegol/Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol (RIGs) – safleoedd an-statudol o bwys rhanbarthol a gydnabyddir gan English Nature ac awdurdodau lleol.
Safleoedd Ramsar – ardaloedd a ddynodir o dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol ag a gytunwyd yn rhyngwladol, yn arbennig, yn safleoedd adar
Seilwaith – adnoddau parhaol yn gwasanaethu anghenion cymdeithas, yn cynnwys ffyrdd, carthffosiaeth, ysgolion, ysbytai, rheilffyrdd, rhwydweithiau cyfathrebu ayb.
Siop Cyfleustra – archfarchnad, siop groser, siop bapurau newydd, siop losin, siop dybaco, siopau gwerthu gwirodydd, neu siopau eraill yn gwerthu nwyddau sy’n tueddu i werthu nwyddau a brynir yn rheolaidd.
Statudol – yn ofynnol o dan y gyfraith (statud) yn arferol drwy Ddeddf Seneddol
Strategaethau Trafnidiaeth Integredig – integreiddiad cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth i ganiatáu i ddarpariaeth trafnidiaeth a’r galw am deithio gael eu cynllunio a’u rheoli gyda’i gilydd, gan gydbwyso’r defnydd o wahanol ddulliau o drafnidiaeth i hybu trosglwyddo’n iad hawdd rhyngddynt a lleihau dibyniaeth ar y car preifat.
Sui Generis – defnyddiau tir ac adeiladau sydd heb fod yn disgyn i unrhyw un o’r dosbarthiadau defnydd a ddynodir gan y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, er enghraifft theatrau, siopau glanhau dillad, safleoedd gwerthu ceir a gorsafoedd petrol.
Tai Anghenion Arbennig - tai i gwrdd â angen sy’n deillio o ddigartrefedd neu orboblogi, ac wedi eu codi at y diben neu dai i’r henoed neu bobl anabl neu’r rhai sy’n rhaid iddynt wrth ofal.
Tai Fforddadwy – tai cost isel ar werth neu i’w rhentu, yn aml gan gymdeithas tai, i gwrdd ag anghenion pobl leol na allant fforddio cartrefi ar y farchnad cost isel neu agored, na thai ar rent gostyngol.
Tawelu Traffig – camau rheoli wedi eu cynllunio i leihau cyflymder traffig neu ddargyfeirio traffig ar hyd llwybrau amgen i osgoi tagfeydd, lleihau damweiniau ac anafiadau ac atal lefelau rhy uchel o lygredd.
Tir Cefn - tir sydd yn gorwedd y tu ôl i ddatblygiad sy’n bod yn barod gyda dim, neu ffryntiad rhyngddo a’r ffordd, neu ffryntiad cyfyngedig iawn.
Tir Halogedig – tir a gafodd ei halogi neu ei niweidio mewn rhyw ffordd a’i gwnaiff yn anaddas ar gyfer datblygiad diogel a’r rhan fwyaf o ddefnyddiau ymarferol.
Tir y Cyhoedd – ardaloedd awyr agored sy’n hygyrch i’r cyhoedd
Tref Newydd – anheddiad annibynnol newydd a ddynodwyd ac a gynlluniwyd o dan Ddeddf Trefi Newydd 1946 a deddfwriaeth ddilynol.
Treflun – golwg a chymeriad adeiladau a phob nodwedd arall mewn ardal drefol o’u cymryd gyda’i gilydd fel cyfanwaith.
Tu allan i’r Canol – lleoliad a wahenir o ganol tref ond nad yw o angenrheidrwydd y tu allan i’r ardal adeiledig.
Tu allan i’r Dref – datblygiad tu allan i’r canol ar safle tir glas neu ar dir nad yw’n amlwg y tu mewn i’r ffin drefol gyfredol.
Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon – gweithdrefn ardystio defnydd presennol neu arfaethedig a moddau eraill ar ddatblygiad yn rhai cyfreithlon ar gyfer dibenion cynllunio. Rhaid gwneud cais i awdurdod cynllunio lleol ac mae hawl i apelio yn erbyn eu penderfyniad.
Tystysgrif Defnydd Sefydledig - cyhoeddwyd y rhain gan awdurdod cynllunio cyn Gorffennaf 1992 mewn achosion lle y gellid dangos bod defnydd o dir neu adeiladau wedi bodoli cyn 1964. Rhoddai imiwnedd rhag camau gorfodi. Er Gorffennaf 1992 disodlwyd hwy gan Dystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon.
Ymgymeryddion Statudol/ Cyfleustodau Statudol – darparwyr gwasanaethau statudol megis nwy, trydan, dwr neu delegyfathrebu.
Ymgynghori – gweithdrefnau i asesu barn gyhoeddus am gynllun neu gynllun datblygu mawr, neu yn achos cais cynllunio, y ffordd i gael barn cymdogion yr effeithir arnynt neu eraill gyda diddordeb yn y cynnig.
Ymrwymiad i Danwydd nad yw’n Danwydd Ffosil (NFF0) – darpariaeth yn Neddf Trydan 1989 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau trydan rhanbarthol gynhyrchu cyfran o’u trydan o ffynonellau ynni heblaw rhai tanwydd ffosil.
Ynni Adnewyddol – ynni a gynhyrchir o adnoddau dihysbydd, a atgyflenwir yn gyflym neu a adnewyddir yn naturiol megis gan wynt, haul, tonnau a gwastraff, ac nid o losgi tanwydd ffosil.
Yr Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau (DTLR) – adran y Llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi cynllunio gwlad a thref a gweinyddiad ( y DETR) –Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau gynt).
Ystafell gyfanheddol – pob ystafell fyw ac ystafelloedd gwely, ond nid ceginau ac ystafelloedd ymolchi, toiledau na gofod cylchdroi, ac yn cael eu hystyried yn arferol yn gyfanheddol ar gyfer dibenion amcangyfrif dwyster.
Ystyriaeth Berthnasol – mater y dylid rhoi ystyriaeth iddo wrth benderfynu ar gais cynllunio neu ar apêl yn erbyn penderfyniad cynllunio.
© Crown Copyright 2009