Skip to content

Choose country and language preference

Yn ei hanfod, gweledigaeth Cynllunio: Cyflawni dros Gymru yw gweddnewid ethos/diwylliant y system gynllunio yng Nghymru drwy sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio â phrif ddarparwyr y system gynllunio hy: y dau ddeg pump o awdurdodau cynllunio lleol ac Arolygiaeth Gynllunio Cymru.

Gyda'i gilydd, bydd y rhanddeiliaid hyn gydag eraill, yn sicrhau y bydd y system gynllunio:

  • Yn agored ac yn deg
  • Yn ennyn hyder y cyhoedd a busnesau
  • Yn gwella ansawdd ac yn cyflymu prosesau
  • Yn integreiddio â chynlluniau, prosesau a chamau gweithredu eraill
  • Yn cyflawni'r amcanion y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi'u pennu yn y Cynllun i Gymru

 

Y mae’r rhan hon o’r wefan yn rhoi’r modd i chi weld pob adroddiad a chyhoeddiad sy’n ymwneud â CcdG a’r broses o greu deddf i fedru cyflawni rhai o’r newidiadau sy’n cael eu cynnig yn CcdG. Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybodaeth pellach ar wellinau’r system gynllunio yng Nghymru.

Cynllunio: Cyflawni dros Gymru.

Diwygio cynllunio